Adroddiad ar yr ymchwiliad i Gyfleoedd Cyflogaeth i Bobl dros 50 oed

Gorffennaf 2015

Ystyriodd Pwyllgor Menter a Busnes Cynulliad Cenedlaethol Cymru y problemau a wynebir gan bobl dros 50 oed pan maent yn chwilio am swydd.

Beth yw'r problemau?

Gall fod yn anodd i bobl dros 50 oed ddod o hyd i swydd, yn enwedig un sy'n defnyddio eu holl sgiliau.  Mae angen inni weld beth y gellir ei wneud am hyn oherwydd gan fod pobl yn byw'n hirach ac mae pensiynau'n llai, bydd yn rhaid i'r rhan fwyaf ohonom weithio'n hirach.  Mae pethau'n newid, mae pobl fel arfer wedi ymddeol yn 60 neu'n 65 oed ond nid oes rhaid iddynt, ac ni all cyflogwyr eu gorfodi i ymddeol.

Pam mae hyn yn digwydd?

Ystyriodd y Pwyllgor pam y gall fod yn anodd i bobl dros 50 oed ddod o hyd i waith.  Canfu efallai nad oes gan bobl dros 50 oed y sgiliau TG i weithio mewn math newydd o swydd.  Gall cyflogwyr yn aml feddwl y bydd ganddynt broblemau iechyd pan nad yw hyn yn wir.  Rhaid i lawer o bobl dros 50 oed ofalu am blant a'u rhieni oedrannus, a all olygu eu bod yn llai hyblyg o ran pryd y gallant weithio.  Gall hefyd olygu y gallant weithio gyda'r nos pan na all rhieni ifanc wneud hynny.  Cred llawer o gyflogwyr ei bod yn well buddsoddi arian i hyfforddi person ifanc gan y bydd yn aros gyda'r cwmni'n hirach.  Fodd bynnag, mae person hŷn yn llai tebygol o newid swyddi na pherson ifanc.

Beth y dylid ei wneud?

Mae angen inni ddysgu mwy

Hoffem wybod mwy am yr anawsterau sy'n wynebu pobl dros 50 oed pan maent yn chwilio am waith.  Un peth y soniodd llawer o bobl amdano oedd nad oedd digon o dystiolaeth am y broblem.  Dim ond drwy edrych ar sut a pham mae'r problemau hyn yn bodoli y gallwn geisio eu datrys. 

Rydym yn awyddus i wybod pa fath o waith sydd ar gael i bobl dros 50 oed, a yw'n haws bod yn hunangyflogedig ac a yw pobl yn gorfod gweithio am na allant fforddio ymddeol.  Rydym hefyd yn awyddus i wybod a yw'r sefyllfa'n wahanol i ddynion a menywod.  Dylid ystyried pa gymorth sydd ar gael i bobl dros 50 oed sydd am ddechrau eu busnes eu hunain.

Helpu'r hen a'r ifanc

Dywedodd llawer o bobl wrthym nad yw cyflogwyr yn rhoi cyfle iddynt os ydynt dros 50 oed.  Mae hyn yn enghraifft o wahaniaethu, ac rydym yn awyddus i gael gwybod pa mor real yw'r broblem.  Rydym yn awyddus i Lywodraeth Cymru wneud mwy i atal gwahaniaethu yn erbyn pobl dros 50 oed sy'n chwilio am waith.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod yn canolbwyntio ar helpu pobl ifanc ddi-waith i ddod o hyd i waith ac mai dyma'r grŵp pwysicaf i'w helpu.

Rydym yn awyddus i Lywodraeth Cymru ystyried dylunio cynllun sy'n debyg i Twf Swyddi Cymru, ond ar gyfer pobl dros 50 oed sydd eisiau swydd.

Os bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi'r cyfle cyntaf i bobl ifanc ddilyn prentisiaeth, yna dylai sicrhau ei bod yn gwybod pa effaith a gaiff hyn ar bobl hŷn na allant gael prentisiaeth.

Ymgyrchoedd

Rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru lansio ymgyrch 'Positif am Oed' i annog cyflogwyr i gyflogi pobl hŷn.  Gyda'r Comisiynydd Pobl Hŷn, dylai gael ymgyrch a fydd yn cynyddu nifer y lleoliadau gwaith a phrentisiaethau ar gyfer pobl dros 50 oed.

Dylai ysgrifennu strategaeth sgiliau ar gyfer pobl dros 50 oed sy'n nodi sut y bydd yn helpu'r bobl hynny i gael y sgiliau sydd eu hangen arnynt i gael swydd.

Dylai hefyd ystyried a oes digon o arian ai peidio ar gael i bobl dros 50 oed sydd am ddechrau eu busnes eu hunain.

Beth nesaf?

Mae pawb yn cytuno bod yn rhaid inni geisio datrys y problemau hyn cyn gynted â phosibl.  Bydd llawer mwy o bobl dros 50 oed yn chwilio am waith ac mae angen inni sicrhau y gallant ddefnyddio eu galluoedd yn y ffordd orau.  Os na fyddwn yn ceisio datrys y problemau hyn, efallai y bydd pobl dros 50 oed mewn swyddi cyflog isel neu heb swydd o gwbl yn hytrach na defnyddio eu profiad i ennill cyflog, helpu pobl ifanc yn y gweithle a chyfrannu at economi Cymru.

Dyna pam y bydd y Pwyllgor yn gofyn i'r Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg beth y bydd yn ei wneud ynghylch yr hyn a gafodd ei ddweud yn ystod yr hydref.  Cadwch lygad ar ein gwefan a'n ffrwd Twitter i gael y wybodaeth ddiweddaraf.